Mae datblygu strategaeth cam-drin domestig o gymorth i gydgrynhoi ymrwymiad y sefydliad i fynd i'r afael â cham-drin domestig ac ar yr un pryd yn darparu’r sylfaeni (a chyd-destun) ar gyfer gweithrediadau dilynol.
Gall strategaeth VAWDASV a chynllun gweithredu gynorthwyo sefydliadau landlord cymdeithasol i amlinellu sut y byddant yn gweithio ag asiantaethau eraill, yn ateb i anghenion hyfforddi staff, yn sicrhau bod ymatebion i gleientiaid/tenantiaid yn briodol, sut y byddant yn codi ymwybyddiaeth a chyfrannu at y newid cymdeithasol ehangach.
Gall gynorthwyo i nodi strwythurau a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflenwi gwelliannau.
Gall strategaeth cam-drin domestig ymgorffori’r canlynol:
Yr achos busnes
Gan gynnwys ystadegau, gyrwyr cenedlaethol a rhanbarthol; cyd-destun deddfwriaethol ayyb; creu byrddau Partneriaethau VAWDASV rhanbarthol a’u blaenoriaethau strategol allweddol (gweler isod); costau cudd; costau i gymdeithas ayyb.
Gweledigaeth
Yn amlinellu’r rôl sydd gan landlordiaid cymdeithasol o ran mynd i’r afael gyda cham-drin domestig a gweithredu fel porth i gymorth a chefnogaeth arbenigol; yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer o achosion o gam-drin domestig mewn tai cymdeithasol a’r goblygiadau o ran diogelu plant ac oedolion.
Goroeswyr fel arbenigwyr
Yn nodi ymrwymiad y sefydliad i ymgysylltu â thenantiaid sydd wedi profi cam-drin domestig yn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed, ac yn eu tro yn hysbysu cynllunio i’r dyfodol o ran mynd i’r afael â’r mater.
Pennu’r hyn y bydd sefydliad yn ei wneud
Nodi meysydd blaenoriaeth allweddol a chynllun gweithredu. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant staff, cydweithio amlasiantaeth a mynychu cyfarfodydd amlasiantaeth, ymrwymo adnoddau i wella diogelwch, ymateb i gyflawnwyr (gan gynnwys eu dal i gyfrif), treialu neu ymgorffori mentrau newydd fel atal, codi ymwybyddiaeth ayyb. (Gweler Haen 2 ar gyfer meysydd y gellid eu hystyried)
Adnabod yr unigolyn arweiniol i oruchwylio cyflenwi'r strategaeth (a allai fod yn rhan o’r rôl diogelu bresennol)
Monitro a Symud y Strategaeth yn ei flaen
Nodi sut y bydd cynnydd yn cael ei fonitro a’i fesur.