8. Ymateb i gyflawnwyr

Ni ddylai eich staff geisio ymgysylltu yn uniongyrchol gyda, na dod wyneb yn wyneb â chyflawnwyr neu unigolyn dan amheuaeth o fod yn gyflawnwr.   Dylid canolbwyntio ar warchod y dioddefwr drwy fesurau gwella diogelwch sydd ar gael yn eu sefydliad ac atgyfeirio i asiantaethau arbenigol am gefnogaeth.   Dylid rhoi asesiadau risg ar waith lle mae staff yn mynd i eiddo lle mae cyflawnwr hysbys.   Dylai Rheolwyr weithredu Polisïau a Gweithdrefnau o ran gweithwyr unigol a diogelu’r dioddefwr.   Yn ogystal, mae angen atgoffa staff o’u polisi diogelwch lle mae plant yn yr eiddo.  

Mae mwy o fanylion ar gael isod:

Adnabod yr arwyddion ac ymddygiad

Canfu arolwg Landlordiaid Cymdeithasol a gafodd ei gynnal ym mis Hydref 2015 gan Heddlu De Cymru a Swyddfa Comisiynwyr Troseddu bod yr holl ymatebwyr i’r arolwg wedi datgan bod ganddynt bolisi a gweithdrefnau Cam-drin Domestig  yn y gweithle ar waith.  Fodd bynnag, nododd bron i ddwy ran o dair o’r Landlordiaid Cymdeithasol nad oeddent yn defnyddio cyfathrebiadau sefydliadol i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yn y gweithle.  Mae’r Landlordiaid Cymdeithasol ar y cyfan yn rheoli mwy na 20,000 o eiddo yn Ne Cymru.  Mae hyn yn dangos nad yw nifer sylweddol o staff sy’n gweithio â’r Landlordiaid Cymdeithasol hyn yn derbyn unrhyw fath o wybodaeth sefydliadol ynghylch cam-drin domestig.
O’r ymatebwyr un Landlord Cymdeithasol yn unig a nododd bod ganddynt bwynt cyswllt sengl cam-drin domestig er i Landlord Cymdeithasol arall ddatgan bod ganddynt Bencampwr Cam-drin Domestig o fewn y gweithle.  Ni nododd unrhyw Landlord Cymdeithasol bod ganddynt lawlyfr ar gam-drin domestig ar waith.   Fel modd i godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion, o ran y dioddefwr a’r cyflawnwr, mae diffyg gwybodaeth gyfredol yn ffactor sy’n cyfrannu at y diffyg gweithredu rhagweithiol i fynd i'r afael â’r mater.    Mae’n hanfodol bod polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer pob aelod o staff fel modd i sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu cyflwyno, rhannu a’u defnyddio, e.e. llwybrau atgyfeirio
Fodd bynnag, mae tystiolaeth bod systemau fflag yn cael eu defnyddio fel modd i dynnu sylw at achosion o gam-drin domestig.  Mae’r mesur effeithiol hwn yn caniatáu i holl staff rheng flaen sy’n mynychu’r eiddo fod yn ymwybodol bod cyswllt â’r unigolyn eisoes yn digwydd.

Mynediad at hyfforddiant

I sicrhau safonau gofal cyson dylai Landlordiaid Cymdeithasol adolygu’r Fframwaith gyda golwg ar weithredu dwy brif swyddogaeth, sef:
• Darparu hyfforddiant cyson, wedi’i ledaenu’n gymesur ar gyfer awdurdodau perthnasol i wella’n sylfaenol ddealltwriaeth y gweithlu cyffredinol ac, felly ymateb y rheini sy’n goddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
• Cysoni hyfforddiant arbenigol sy’n bodoli i broffesionoleiddio’r sector arbenigol ymhellach, i wella cysondeb y ddarpariaeth hyfforddiant arbenigol yn genedlaethol ac i osod gofynion craidd ar gyfer darpariaeth gwasanaeth  arbenigol.

Bydd rhaglenni effeithiol o waith ataliol yn caniatáu i holl ddarparwyr tai ymgysylltu â thenantiaid o gyfnod cynnar, rhoi mesurau effeithiol ar waith i sicrhau bod pawb yn ddiogel a hefyd cyfeirio at asiantaethau perthnasol a fydd yn gweithio â theuluoedd i fynd i’r afael â chywiro’r cylch o gam-drin.

Polisi a safbwynt

Er nad yw cymdeithasu tai yn ddarostyngedig i’r un fframwaith cyfreithiol ag awdurdodau lleol mae angen iddynt hwy fod yn ymwybodol o’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i fynd i'r afael gyda’r angen o ran tai.  Dylai Cymdeithasau Tai weithio ag Awdurdodau Lleol i’w cynorthwyo i gyflawni’r swyddogaeth hon a chyflenwi canlyniadau da o ran tai, yn arbennig oherwydd bod rhaid gwneud hyn yn unol â fframwaith rheoleiddio yng Nghymru.  Mae Adran 95 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi cryfhau’n sylweddol y ddyletswydd i gydweithredu dan Ddeddf Tai 1996.   Mae Adran 170 o Ddeddf Tai 1996 yn gofyn bod Cymdeithasau Tai yn ‘co-operate to such an extent as is reasonable in the circumstances in offering accommodation to people with priority under the authority’s allocations scheme.’
Mae Adran 167(2) o Ddeddf Tai 1996 yn rhoi’r pŵer i Awdurdodau Lleol drefnu eu cynlluniau dyrannu fel bod modd rhoi ffafriaeth ychwanegol i ddisgrifiadau penodol o bobl sy’n dod o fewn y categorïau ffafriaeth resymol ac sydd ag angen brys o ran tai.   Rhaid i bob Awdurdod Lleol ystyried yng ngoleuni amgylchiadau lleol, yr angen i weithredu’r ddarpariaeth hon.  Mae enghreifftiau o bobl y dylid eu hystyried hyn ar gyfer hyn yn cynnwys; y ddyletswydd ddigartrefedd sy’n ddyledus o ganlyniad i drais neu fygythiad o drais sy’n debygol ac sydd o ganlyniad angen eu hail-gartrefu ar unwaith, er enghraifft dioddefwyr cam-drin domestig neu gam-drin arall. 
Fodd bynnag, nid yw deddfwriaeth yn caniatáu i landlordiaid dynnu cyflawnwr o denantiaeth ar y cyd.   Gellir ond gwneud hyn heb gydsyniad y cyflawnwr os ydi’r dioddefwr yn cyflwyno cais i’r llysoedd eu hunain neu fod y cyflawnwr yn cytuno i aseinio’r denantiaeth i’r dioddefwr / neu fod y cyflawnwr yn terfynu’r denantiaeth a bod modd i’r landlord cymdeithasol ailgyhoeddi denantiaeth un person i’r dioddefwr.  Mae rhai landlordiaid cymdeithasol wedi datgan nad oes modd iddynt ailgyhoeddi tenantiaeth un person i’r dioddefwr os ydi’r dioddefwr wedi terfynu’r denantiaeth.

Mae’n amlwg hefyd bod ychydig o wahaniaethau o ran ailgartrefu’r dioddefwr a chyflawnwyr.   Nid yw rhai Landlordiaid Cymdeithasol yn ailgartrefu cyflawnwyr i ddatrys y broblem, fodd bynnag maent yn ailgartrefu dioddefwr mewn rhai amgylchiadau.  Mae landlordiaid cymdeithasol eraill yn darparu llety amgen i gyflawnwyr neu fel arall byddant yn cofrestru eu hunain yn ddigartref.  Mae gosod hefyd yn hanfodol - byddai cynnig llety yn agos at y dioddefwr yn cael effaith andwyol ar bawb sy’n gysylltiedig.    Yma mae angen ymateb mewn modd rhagweithiol gyda golwg ar edrych ar ddatrysiadau tymor hir.