Mae staff tai mewn sefyllfa dda i roi awgrymiadau cychwynnol ar sut y gall tenantiaid wella eu diogelwch personol pan fyddant yn yr eiddo. Mae hyn yn ymestyn i denantiaid sy’n cael eu cartrefu dros dro yn rhywle arall, neu’r rhai sydd wedi dewis aros yn y berthynas gyda’r tramgwyddwr.
Ond, ni ddylid drysu rhwng y camau hyn â datblygu cynllun diogelwch unigol. Mae’r Bartneriaeth Byw Heb Ofn yn argymell y dylai staff tai gyfeirio tenantiaid sy’n datgelu camdriniaeth at asiantaethau arbenigol i ddatblygu cynllun diogelwch unigol.
Gall rhoi gwybodaeth am gamau diogelwch cychwynnol helpu unigolion i ddiogelu eu hunain. Mae’n eu helpu hefyd i baratoi rhag ofn y bydd rhagor o broblemau yn eu perthynas â'r tramgwyddwr - gan gynnwys bod y berthynas wedi dod i ben.
Mae’n gamdybiaeth gyffredin bod y cam-drin yn dod i ben pan fydd y berthynas yn dod i ben; nid yw hyn yn wir. Gall partner neu aelod o’r teulu sy’n cam-drin ac yn rheoli ail ymddangos ar unrhyw adeg i adfer ei reolaeth ar y dioddefwr. Mae pobl sy’n profi camdriniaeth yn aml mewn mwyaf o berygl pan fyddant yn gadael y tramgwyddwr.
Rhai awgrymiadau y gall staff tai eu cynnig i denantiaid i wella eu diogelwch personol:
- Os ydych mewn perygl ar yr eiliad honno ffoniwch 999
- Cadwch y ffôn wedi ei gwefru (os nad ydych ar gontract gofalwch bod gennych gredyd)
- Ystyriwch newid eich rhif ffôn os ydych wedi gwahanu
- Diffoddwch y gosodiadau lleoliad ar ffonau symudol
- Datblygwch eiriau cudd gyda ffrindiau a chymdogion - rhowch wybod iddynt am unrhyw larymau
- Hyfforddwch blant i ddeialu 999 mewn argyfwng a/neu eu dysgu i roi rhybudd i gymdogion neu deulu
- Gwnewch yn siŵr bod gennych arian parod mewn argyfwng (digon i dalu am dacsi)
- Cadwch ffenestri a drysau lawr grisiau ar gau ac wedi eu cloi i atal rhywun rhag dod i mewn pan fyddwch yn yr eiddo
- Cynlluniwch lwybrau ffoi a sefydlu mannau diogel
- Ystyriwch dynnu manylion personol fel cyfeiriad allan o unrhyw gyfeiriaduron cyhoeddus
- Newidiwch eich patrymau pan fydd yn bosib
- Ystyriwch eich diogelwch yn y gwaith. A yw’r cyflogwr wedi cael gwybod? Dylai cyflogwr sicrhau diogelwch yn y gwaith
- Cadwch ddyddiadur neu nodiadau am ddigwyddiadau